Prosiect Sbwriel Cricieth
O'r cyflwyniad cychwynnol i'r Cyngor Tref, i gyflwyniadau mewn ysgolion, i ryngweithio a rhannu arfer da ar gyfryngau cymdeithasol, roedd y gymuned leol yn rhan elfennol o'r gwaith o'r dechrau. Roedd y prosiect yn anelu i greu ymgyrch hunangynhaliol gyda ffocws ar y gymuned, yn gyrru i gael ateb lleol i’r broblem ysbwriel morol.
Defnyddiwyd methodoleg y Gymdeithas Cadwraeth Forol ar gyfer monitro: rhaglen arolygu ysbwriel a glanhau traeth genedlaethol sydd wedi bod ar waith ers dros 20 mlynedd. Cyflwynwyd ardal arolwg ar Draeth Morannedd, Cricieth (SH511379), ac mae monitro rheolaidd wedi digwydd, ynghyd â glanhau nifer fawr o ysbwriel o draethau lleol.
Yn ogystal â'r arolygon a glanhau'r traethau, roedd Cyngor Tref Cricieth a gwirfoddolwyr y prosiect yn awyddus i sefydlu menter a fydd yn annog aelodau'r cyhoedd i dreulio ychydig funudau yn codi ysbwriel ar y traeth, mewn modd ymarferol a rhwydd. Yn dilyn trafodaethau gyda Dylan's, bwyty lleol, prynwyd a lleolwyd gorsaf #2funudtraethglân ar y traeth.