Crwydro Arfordir Cymru - Yr Arfordir yn Eich Poced
Ap Crwydro Arfordir Cymru yw’r ap perffaith ar gyfer archwilio arfordir Cymru gyfan sydd ar gael AM DDIM. O’r aber i'r môr, o'r clogwyn i’r traeth, archwiliwch ein harfordir heddiw ac helpwch ei amddiffyn am byth.
Mae’r ap wedi’i greu gan bartneriaeth o sefydliadau Cymreig, a bydd yn cael ei lansio ar storfeydd apiau yn Ebrill 2022!
Mae nodweddion yr ap yn cynnwys:
- Codau Ymddygiad Morol
- Cymorth adnabod bywyd gwyllt a ffeithiau diddorol
- Gwyddoniaeth dinesydd - adroddwch ar y bywyd gwyllt a welsoch!
- Archeoleg arfordirol yn eich ardal
- Adnabod ac adrodd ar rywogaethau goresgynnol
- Cynnwys dwyieithog