Codau ymddygiad
Cod Morol ar gyfer llongau a chychod hamdden
Mae cychod wedi cael ei ddefnyddio yn nyfroedd Cymru ers canrifoedd ac mae dolffiniaid a bywyd gwyllt arall dal yma. Felly pam y gofynnwyd i ddefnyddwyr cychod dilyn cod morol rŵan? Mae nifer o resymau am hyn gan gynnwys nifer cynyddol y cychod cyflym, hydrin iawn sydd bellach mewn defnydd a’r cynnydd yn y nifer o gychod hamdden sydd mewn defnydd yn gyffredinol. Mae’r cychod hyn yn gallu amharu ar fywyd gwyllt a hyd yn oed achosi niwed iddynt.
Mae nifer o Godau Morol wedi cael eu cynhyrchu sydd yn amlinellu canllawiau synhwyrol a fydd yn lleihau’r aflonyddwch i fywyd gwyllt a sicrhau na thorrir cyfreithiau’r DU sydd yn ei ddiogelu.
Erbyn hyn mae Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn dilyn yr un Cod Morol. Yr un wybodaeth sydd ym mhob côd heblaw pan fod angen gwybodaeth leol.
Yn gyffredinol byddwch yn wyliadwrus gan gadw draw o fywyd gwyllt. Peidiwch â mynd at famaliaid môr, gadewch iddynt ddod atoch chi.
- Cadwch olwg am fywyd gwyllt
- Cadwch draw
- Lleihau cyflymder a sŵn
Gweithredwch bob cwch gyda gofal a sylw am ddiogelwch preswylwyr a pharch at bob defnyddiwr môr arall.
Cod Morol Gwynedd
Cod Morol Ynys Môn
Cod Morol Conwy
Cod Morol Ceredigion
Cysylltwch â’r Swyddog ACA am gopïau caled.