Am yr ardal
Pen Llŷn a’r Sarnau yw un o’r safleoedd morol mwyaf sydd wedi’i ddynodi yn y DU. Mae nifer fawr o wahanol bethau yn digwydd i’r safle ar adegau, fel sy’n wir gyda nifer o ardaloedd morol. Mae’r rhain yn cynnwys datblygiadau, gweithgareddau hamdden, diwydiant a chadwraeth. Oherwydd yr amrywiaeth hyn o bethau, rhaid rheoli’r safle trwy geisio cael cydbwysedd rhwng y gweithgareddau hyn a hybu datblygiadau cynaliadwy ac arfer da gyda’r holl weithgareddau i helpu i ddiogelu’r amgylchedd morol a sicrhau ei fod yn parhau i gefnogi nifer o wahanol fuddiannau a defnyddiau.