Morwellt Achub Cefnfor
Dolydd Delfrydo
Mae’r DU wedi colli hyd at 90% o’i dolydd morwellt yn y ganrif ddiwethaf, sydd wedi cael canlyniadau negyddol i iechyd a gwydnwch ein systemau arfordirol. Yn 2019, ffurfiodd Prifysgol Abertawe, yr elusen Project Seagrass a WWF-UK gydweithrediad i ddechrau adfer rhywfaint o'r hyn yr ydym wedi'i golli. Ar yr un pryd, dros y chwe blynedd diwethaf mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn arwain treialon ledled Cymru i ddatblygu dulliau priodol ar gyfer adfer morwellt.
Yma yn Ngogledd Cymru, mae Pen Llŷn a’r Sarnau a’r Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi ymuno gyda’r partneriaid i gychwyn archwilio sut allwn ddod a’r prosiect cyffrous yma i Ogledd Cymru. Rydym wedi sicrhau cyllid datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu rhaglen waith adfer arfaethedig sy’n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn ecolegol gadarn ac rydym ni eisiau i chi gymryd rhan. Mi fydd y gwaith yma hefyd yn adeiladu ar yr holl waith rydym wedi ymgymryd ym Mhorthdinllaen dros y blynyddoedd.
Wrth gymryd rhan yn yr arolwg byr isod fyddwch chi yn helpu ni i adfer morwellt yng Ngogledd Cymru.