Riffiau biogenig
Riff cragen ddilyw – mae ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn cynnal un o’r ddwy riffiau cragen ddilyw sydd ar ôl ym Môr Iwerddon (mae trydedd riff, un sydd wedi’i difrodi, yng ngogledd Iwerddon). Mae’r riff cragen ddilyw yn yr ACA oddeutu bedwar cilomedr allan i’r môr oddi ar arfordir gogleddol Llŷn. Yma mae gwely’r môr sy’n gymysgedd o waddod a choblau wedi’i orchuddio gan wely trwchus o gregyn dilyw Modiolus modiolus. Mae’r riff yn o leiaf gant a hanner o flynyddoedd oed ond yn debygol o fod yn llawer hŷn. Mae oes hir i’r cregyn dilyw. Mae samplau o riff cragen ddilyw gogledd Llŷn wedi dangos bod cregyn dilyw unigol dros hanner cant o flynyddoedd oed ond bod cregyn ifainc hefyd yn ymddangos ar y riff.
Mae’r cregyn yn glynu wrth ei gilydd gan edeifion arbennig (byssus) ac mae’r rhain yn dal silt mân a’r deunydd gwastraff – gwaddod – a gynhyrchir gan y cregyn (pseudofaeces) a, thrwy hyn, yn adeiladu strwythur y riff. Mae’r riff hon yn cynnwys tonnau ar wely’r môr a grëir gan y cregyn eu hunain – mae’r rhan fwyaf o’r cregyn byw yn byw ar grib pob ton a’r cregyn gweigion yn y pantiau.
Mae’r cyfuniad o is-haenau ar ffurf cregyn dilyw caled, gwahanol raddfeydd o waddod a’r cyfleon i rywogaethau dirgel gael hyd i gysgod ymhlith y cregyn, yn rhoi ystod eang o isgynefinoedd – mae hyn yn cynnal biomas uchel o amrywiaeth eang o rywogaethau sy’n byw ymhlith matrics y gwely o gregyn (infauna) ac ar wyneb y riff o gregyn (epifauna). Mae cwrel meddal, molysgiaid, ecinodermiaid, anemonïau, cramenogion a physgod yn rhai o’r rhywogaethau mwyaf amlwg a mwy sy’n gysylltiedig â’r riff cragen ddilyw. Credir bod riffiau o’r math hwn yn hynod gynhyrchiol ac yn debygol o chwarae rôl bwysig yn yr ecosustem forol.
Riff cragen las Musculus - Musculus discors – mae’n rhywogaeth fechan iawn sydd, o bryd i’w gilydd, yn byw mewn clystyrau trwchus sydd ynghlwm wrth graig a gwaddodion graeanog lle mae’n atgyfnerthu wyneb y gwaddod trwy rwymo hwnnw a haen drwchus o pseudofaeces gyda’i gilydd gyda’i edeifion byssus. Mae Musculus discors yn rhywogaeth gyffredin ond ychydig iawn o enghreifftiau o welyau trwchus o’r rhywogaeth hon sydd yn Ynysoedd Prydain ac mae’r rhan fwyaf o’r cofnodiadau hyd heddiw yn rhai a ddaw o riffiau oddi ar arfordir gogleddol Pen Llŷn. Mae sawl llecyn mawr (cannoedd o fetrau o hyd, o bosib) o Musculus i’w weld yn crawennu’r greigwely a riffiau clogfeini ar hyd arfordir gogleddol Pen Llŷn oddi ar Porth Ysgadan a Phorth Colmon.
Riff llynghyren ddiliau – Mae’r llynghyren Sabellaria alveolata yn ffurfio tiwbiau o graean tywod ac mae’n byw ynddynt. Dan amgylchiadau penodol, mae’r llynghyren yn creu clystyrau o’r tiwbiau hyn i greu riffiau sy’n edrych fel diliau mêl enfawr ynghlwm wrth y graig. Mae gan riffiau llynghyren ddiliau neu Sabellaria yn yr ACA gyfoeth o rywogaethau sy’n dibynnu arnynt am fwyd ac ati. Daw hyn oherwydd bod strwythurau’r riff yn sefydlogi ac yn aml iawn yn creu pyllau trai mewn dŵr a fyddai, fel arall, yn ddyfroedd mwy symudol ac yn draenio’n rhwydd. Mae gan Gymru gyfran uchel o adnodd riff llynghyren ddiliau’r DU gyda chyfran sylweddol ohono yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau.