Ogofâu sydd dan y môr ac yn rhannol dan y môr
Crëir ogofâu môr pan fo daeareg penodol ardal yn caniatáu i’r broses hindreulio ac erydu deunyddiau greu darnau o graig sy’n ymestyn drosodd, holltau, ogofâu a thwnneli sy’n cynnig amgylchiadau hynod arbenigol i blanhigion ac anifeiliaid y môr.
Mae gan y DU yr ogofâu môr mwyaf amrywiol a helaeth ar Arfordir Iwerydd Ewrop .
Yn yr ACA, mae yna ogofâu môr o amgylch Pen Llŷn, yn cynnwys Ynysoedd Tudwal a hefyd ar hyd arfordir Meirionnydd i’r gogledd o Donfannau ac arfordir Ceredigion i’r gogledd o Glarach. Ceir amrywiaeth eang o fathau o ogofâu gyda gwahanol forffoleg sy’n cael eu taro gan donnau, ffrydiau llanw a sgwrfa o dywod yn y dŵr a cherrig/creigiau ar loriau’r ogofâu. Mae daeareg yr ACA yn gymhleth ac mae’r gwahanol fathau o greigiau a nodweddion daearyddol eraill megis plygion, holltau a ffawtiau wedi bod yn sail i greu ogofâu môr yn y safle a sicrhau amrywiaeth ohonynt.
Mae cymunedau’r ogofâu môr yn amrywio o fod yn rhai gwasgarog wedi’u sgwrio a nodweddir gan gen, gwymon coch (megis y gwymon sy’n rhwymo twyni Audouinella purpurea) a molysgiaid yn pori ar ffilmiau biotig (e.e. ym Mhorth Towyn, Trwyn Cilan, Craig Ddu, Rhoslefain, a Chlarach) i rai sydd yn gyfoeth o wymon, sbyngau, anthosoaid (anemonïau a chreaduriaid o’r un teulu) a chwistrelli môr (e.e. ym Mhorth Llanllawen i’r gogledd ddwyrain o Swnt Enlli, Ogof Deuddrws yn Aberdaron ac Ynys Tudwal Fach).
geni